Ein Hymchwil
Yn labordy ymchwil Imiwnoleg Abertawe cawn ein harwain gan y Prif Ymchwilydd, yr Athro Cathy Thornton. Mae ein grŵp yn cynnwys myfyrwyr prosiect israddedig ac ôl-raddedig, myfyrwyr PhD, ymchwilwyr ôl-ddoethurol, cynorthwywyr ymchwil a darlithwyr. Mae gennym nifer o brosiectau ymchwil ar y gweill gyda thema gyffredin o imiwnoleg mewn beichiogrwydd ac iechyd menywod.
Mae ein prosiectau parhaus yn cynnwys themâu gwres a beichiogrwydd (consortia MAGENTA), llygredd mewn beichiogrwydd (consortia RESPIRE), diagnosteg diabetes yn ystod beichiogrwydd, endometriosis a PCOS, gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd, dysfuction brych, Sglerosis Ymledol (MS) mewn Beichiogrwydd, ymhlith llawer mwy. Mae gennym gyllid gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Wellcome, Diabetes UK, MS Society ymhlith eraill.
​
Mae ein diddordebau yn y meysydd hyn hefyd yn cefnogi ymchwil heriau byd-eang sy'n ymwneud â gwella canlyniadau iechyd mamau a newyddenedigol.